Archaea - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngo…
Archaea - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Cynnwys symud i'r bar ochr cuddio Y dechrau 1 Dosbarthiad 2 Geirdarddiad Toglo is-adran Geirdarddiad 2.1 Dosbarthiad 2.2 Cladogram 2.3 Y cysyniad o rywogaethau 3 Ffyla Toglo is-adran Ffyla 3.1 Ffyla dilys 3.2 Ffyla Dros Dro 4 Tarddiad ac esblygiad Toglo is-adran Tarddiad ac esblygiad 4.1 Perthynas â bacteria 4.2 Perthynas ag ewcaryotau 5 Morffoleg 6 Metabolaeth 7 Darllen pellach 8 Cyfeiriadau Toglo'r tabl cynnwys Archaea 129 iaith Afrikaans Alemannisch Aragonés अंगिका العربية الدارجة مصرى অসমীয়া Asturianu Azərbaycanca تۆرکجه Башҡортса Žemaitėška Беларуская (тарашкевіца) Беларуская Български বাংলা Bosanski Català کوردی Čeština Dansk Deutsch Ελληνικά English Esperanto Español Eesti Euskara Estremeñu فارسی Suomi Võro Français Nordfriisk Gaeilge Kriyòl gwiyannen Galego Avañe'ẽ Gaelg עברית हिन्दी Fiji Hindi Hrvatski Kreyòl ayisyen Magyar Հայերեն Interlingua Bahasa Indonesia Ilokano Íslenska Italiano 日本語 Patois Jawa ქართული Қазақша ಕನ್ನಡ Yerwa Kanuri 한국어 Kurdî Kernowek Latina Lëtzebuergesch Лезги Lingua Franca Nova Limburgs Ligure Ladin Lombard Lietuvių Latviešu Madhurâ Malagasy Македонски മലയാളം Монгол मराठी Bahasa Melayu မြန်မာဘာသာ Napulitano Plattdüütsch नेपाल भाषा Nederlands Norsk nynorsk Norsk bokmål Occitan Oromoo ਪੰਜਾਬੀ Kapampangan Polski Piemontèis پنجابی Português Runa Simi ရခိုင် Română Русский Саха тыла Sardu Scots سنڌي Srpskohrvatski / српскохрватски සිංහල Simple English Slovenčina Slovenščina Shqip Српски / srpski Svenska Kiswahili தமிழ் తెలుగు Тоҷикӣ ไทย Tagalog Türkçe Татарча / tatarça Українська اردو Oʻzbekcha / ўзбекча Tiếng Việt Winaray 吴语 ייִדיש 閩南語 / Bân-lâm-gí 粵語 中文 IsiZulu Golygu dolenni Erthygl Sgwrs Cymraeg Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Blwch offer Adnoddau symud i'r bar ochr cuddio Gweithredoedd Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Cyffredinol Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeirio at y dudalen hon Cael URL byr Switch to legacy parser Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho fel PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Abstract Wikipedia Comin Wicimedia Wicifywyd Eitem Wicidata Gwedd symud i'r bar ochr cuddio Oddi ar Wicipedia Archaea Enghraifft o: tacson Math meicro-organeb Safle tacson Parth (bioleg) Rhiant dacson Biota Dechreuwyd Mileniwm 3501. CC Dynodwyr Freebase /M/0n61 Quora Archaea Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia Parth o organebau ungellog, microsgopig (mewn tacsonomeg) yw Archaea. Nid oes gan y micro-organebau hyn yr un cnewyllyn cell ac felly maent yn brocaryotau. Dosbarthwyd Archaea i ddechrau fel bacteria, gan dderbyn yr enw archaebacteria (yn y deyrnas Archaebacteria), ond ni ddefnyddir y term hwn heddiw (2022).[1] Fe'u dosbarthwyd fel bacteria tan yn ddiweddar ond fe'u dosberthir mewn parth eu hunain bellach. Maent yn debyg i facteria o ran golwg ond mae gwahaniaethau yn eu DNA ac RNA, yn eu prosesau genetig fel trawsgrifiad ac yn strwythur eu cellfuriau a'u cellbilenni. Mae llawer o'r Archaea'n byw mewn amgylcheddau eithafol megis tarddellau poeth neu mewn dŵr asidig neu halwynog. Mae gan gelloedd archaeol briodweddau unigryw sy'n eu gwahanu oddi wrth y ddau barth arall, Bacteria ac Ewcaryota. Rhennir Archaea ymhellach yn ffyla cydnabyddedig lluosog. Mae eu dosbarth'n wyddonol yn anodd oherwydd nid yw'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hynysu mewn labordy a dim ond drwy dilynianu eu genynnau y gellir eu canfod mewn samplau amgylcheddol. Yn gyffredinol, mae archaea a bacteria'n debyg o ran maint a siâp, er bod gan rai archaea siapiau gwahanol iawn, megis celloedd gwastad, sgwâr Haloquadratum walsbyi.[2] Er gwaethaf y tebygrwydd morffolegol hwn i facteria, mae gan archaea enynnau a sawl llwybr metabolaidd sy'n perthyn yn agosach i rai ewcaryotau, yn enwedig ar gyfer yr ensymau sy'n ymwneud â thrawsgrifio a chyfieithu (transcription and translation). Mae agweddau eraill ar fiocemeg archaeol yn unigryw, megis eu dibyniaeth ar lipidau ether yn eu cellbilenni,[3] gan gynnwys archaeolau. Mae Archaea yn defnyddio ffynonellau egni mwy amrywiol nag ewcaryotau, yn amrywio o gyfansoddion organig fel siwgrau, i amonia, ïonau metel neu hyd yn oed nwy hydrogen. Mae'r Haloarchaea sy'n goddef halen yn defnyddio golau'r haul fel ffynhonnell ynni, ac mae rhywogaethau eraill o archaea yn trwsio carbon, ond yn wahanol i blanhigion a syanobacteria, nid oes unrhyw rywogaeth hysbys o archaea yn gwneud y ddau. Mae'r Archaea'n atgenhedlu'n anrhywiol trwy ymholltiad deuaidd, darnio neu egin; yn wahanol i facteria, nid oes unrhyw rywogaeth hysbys o Archaea yn ffurfio endosborau. Yr archaea cyntaf a arsylwyd arnynt oedd extremophiles (eithafoffiliaid) yn byw mewn amgylcheddau eithafol fel ffynhonnau poeth a llynnoedd halen heb unrhyw organebau eraill. Arweiniodd gwell offer canfod moleciwlaidd at ddarganfod archaea ym mhob cynefin, bron, gan gynnwys pridd, cefnforoedd a chorsydd. Mae archaea'n arbennig o niferus yn y cefnforoedd, a gall yr archaea mewn plancton fod yn un o'r grwpiau mwyaf niferus o organebau ar y blaned. Mae archaea'n rhan fawr o fywyd y Ddaear: maent yn rhan o ficrobiota pob organeb. Yn y microbiome dynol, maent yn bwysig yn y perfedd, y geg, ac ar y croen.[4] Mae eu hamrywiaeth morffolegol, metabolig a daearyddol yn caniatáu iddynt chwarae rolau ecolegol niferus: sefydlogi carbon; ailgylchu nitrogen; cylchdroi cyfansoddion organig; a chynnal cymunedau symbiotig a syntroffig microbaidd, er enghraifft.[5] Nid oes unrhyw enghreifftiau pendant o bathogenau neu barasitiaid archaeaidd. Yn lle hynny maent yn aml yn gydfuddiannol neu'n gymesurwyr, megis y methanogenau (straenau cynhyrchu methan) sy'n trigo yn y llwybr gastroberfeddol mewn bodau dynol ac anifeiliaid cnoi cil, lle mae eu niferoedd helaeth yn hwyluso'r broses o dreulio bwyd. Defnyddir methanogenau hefyd wrth gynhyrchu bio-nwy a thrin carthion, ac mae biotechnoleg yn ecsbloetio ensymau o archaea eithafol a all ddioddef tymeredd uchel a thoddyddion organig. Dosbarthiad [golygu | golygu cod] Darganfuwyd archaea mewn ffynhonnau poeth folcanig ee Grand Prismatic Spring ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone. Am lawer o'r 20g, roedd procaryotau'n cael eu hystyried yn un grŵp o organebau a'u dosbarthu ar sail eu biocemeg, eu morffoleg a'u metaboledd. Ceisiodd microbiolegwyr ddosbarthu micro-organebau yn seiliedig ar strwythurau eu cellfuriau, eu siapiau, a'r sylweddau y maent yn eu bwyta.[6] Ym 1965, cynigiodd Emile Zuckerkandl a Linus Pauling[7] yn lle hynny ddefnyddio dilyniannau'r genynnau mewn gwahanol brocaryotau i weithio allan sut maent yn perthyn i'w gilydd. Y dull ffylogenetig hwn yw'r prif ddull a ddefnyddir heddiw.[8] Dosbarthwyd Archaea ar wahân i facteria am y tro cyntaf ym 1977 gan Carl Woese a George E. Fox yn seiliedig ar eu genynnau RNA ribosomaidd (rRNA).[9] Ar y pryd dim ond y methanogenau oedd yn hysbys i'r gwyddonwyr. Roeddent yn galw'r grwpiau hyn yn Urkingdoms Archaebacteria ac Eubacteria, er bod ymchwilwyr eraill yn eu trin fel teyrnasoedd neu is-deyrnasoedd. Rhoddodd Woese a Fox y dystiolaeth gyntaf ar gyfer Archaebacteria fel "llinell ddisgynnol" ar wahân. I bwysleisio'r gwahaniaeth hwn, cynigiodd Woese, Otto Kandler a Mark Wheelis yn ddiweddarach ail-ddosbarthu organebau yn dri pharth naturiol a elwir yn system tri-parth: yr Ewcarya, y Bacteria a'r Archaea,[10] yn yr hyn a elwir bellach yn Chwyldro Woesian.[11] Geirdarddiad [golygu | golygu cod] Daw'r gair archaea o'r Hen Roeg ἀρχαῖα , sy'n golygu "pethau hynafol",[12] gan mai methanogenau oedd cynrychiolwyr cyntaf y parth Archaea a thybiwyd bod eu metaboledd yn adlewyrchu awyrgylch cyntefig y Ddaear a hynafiaeth yr organebau, ond wrth i gynefinoedd newydd gael eu hastudio, darganfuwyd mwy a mwy o organebau. Roedd microbau haloffilig eithafol[13] a hyperthermoffilig[14] hefyd wedi'u cynnwys yn Archaea. Am gyfnod hir, roedd yr archaea'n cael ei weld fel eithafoffiliaid sy'n bodoli dim ond mewn cynefinoedd eithafol fel ffynhonnau poeth a llynnoedd halen, ond erbyn diwedd yr 20g, daeth yn amlwg fod yr archaea i'w canfod mewn amgylcheddau nad ydynt yn eithafol hefyd. Heddiw, gwyddys eu bod yn grŵp mawr ac amrywiol o organebau wedi'u dosbarthu'n helaeth ledled y byd natur.[15] Daeth y gwerthfawrogiad newydd hwn o bwysigrwydd a hollbresenoldeb archaea pand ddefnyddiwyd adwaith cadwynol polymeras (PCR) i ganfod procaryotau mewn samplau amgylcheddol o ddŵr a phridd trwy luosi eu genynnau ribosomaidd. Roedd hyn yn caniatáu canfod ac adnabod organebau nad ydynt oeddent wedi eu meithrin yn y labordy.[16][17] Dosbarthiad [golygu | golygu cod] Mae'r ARMAN yn grŵp o archaea a ddarganfuwyd yn ddiweddar (2010au) mewn mwyngloddiau llawn asid . Mae dosbarthiad archaea, a phrocaryotes yn gyffredinol, yn faes dadleuol, gyda'r ddadl yn symud yn gyflym. Nod systemau dosbarthu presennol yw trefnu'r archaea'n grwpiau o organebau sy'n rhannu nodweddion strwythurol ac yn rhannu hynafiaid cyffredin.[18] Mae'r dosbarthiadau hyn yn dibynnu'n helaeth ar ddefnyddio'r dilyniant o enynnau RNA ribosomaidd i ddatgelu y berthnas rhwng organebau (ffylogeneteg moleciwlaidd).[19] Mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau a feithriniwyd yn y labordy o archaea ac sydd wedi'u hymchwilio'n drylwyr yn aelodau o ddau brif ffylawm, sef yr "Euryarchaeota" a'r Thermoproteota (Crenarchaeota gynt). Mae grwpiau eraill wedi'u creu'n ofalus, fel y rhywogaeth anghyffredin Nanoarchaeum equitans, a ddarganfuwyd yn 2003 ac sydd wedi'i gosod yn ei ffylwm ei hun, sef y "Nanoarchaeota".[20] Ceir ffylwm newydd arall, sef y "Korarchaeota" wedi'i gynnig. Mae'n cynnwys grŵp bach o rywogaethau thermoffilig anarferol sy'n rhannu nodweddion y ddau brif ffyla, ond sy'n perthyn yn nes at y Thermoproteota.[21][22] Ceir rhywogaethau eraill o archaea a ddarganfuwyd yn ddiweddar, ac sy'n perthyn o bell i'r grwpiau hyn, megis y nano-organebau asidoffilig Mwynglawdd Archaeaidd Richmond (ARMAN, sy'n cynnwys Micrarchaeota a Parvarchaeota), a ddarganfuwyd yn 2006[23] ac sy'n rhai o'r organebau lleiaf y gwyddys amdanynt.[24] Cynigiwyd yn 2011 bod uwchffylwm – TACK – sy’n cynnwys y Thaumarchaeota (Nitrososphaerota bellach), “Aigarchaeota”, Crenarchaeota (Thermoproteota bellach), a “Korarchaeota” yn gysylltiedig â tharddiad ewcaryotau.[25] Yn 2017, cynigiwyd y byddai'r superphylwm Asgard sydd newydd ei ddarganfod ac sydd newydd ei enwi yn perthyn yn nes at yr ewcaryot gwreiddiol ac sy'n chwaer grŵp i TACK.[26] Cladogram [golygu | golygu cod] Cladogram, yn ôl Tom A. Williams et al. (2017) [27] a Castelle a Banfield (2018)[28] (DPANN): Tom A. Williams et al. (2017)[29] a Castelle a Banfield (2018)[30] Cyhoeddwyd gan GTDB 06-RS202 (26 Ebrill 2021).[31][32][33] {{cite journal | vauthors = Seitz KW, Dombrowski N, Eme L, Spang A, Lombard J, Sieber JR, Teske AP, Ettema TJ, Baker BJ | display-authors = 6 | title = Asgard archaea capable of anaerobic hydrocarbon cycling | journal = Nature Communications | volume = 10 | issue = 1 | pages = 1822 | date = Ebrill 2019 | pmid = 31015394 | doi = 10.1038/s41467-019-09364-x | pmc = 6478937 | bibcode = 2019NatCo..10.1822S }}</ref>\n }}\n }}\n |2={{Clade \n |1=\"Heimdallarchaeota\"\n |label2=(<small>+Alphaproteobacteria|α-Proteobacteria</small>)\n |2=Eukaryota\n }} \n }}\n }}\n }}\n }}"},"style":{"wt":"f…