Iran - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofno…
Iran - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Cynnwys symud i'r bar ochr cuddio Y dechrau 1 Geirdarddiad 2 Hanes Toglo is-adran Hanes 2.1 Cynhanes 2.2 Hynafiaeth glasurol 2.3 Bioamrywiaeth 3 Daearyddiaeth 4 Pobl 5 Iaith a diwylliant 6 Gwleidyddiaeth 7 Economi 8 Taleithiau a siroedd 9 Gweler hefyd 10 Cyfeiriadau Toglo'r tabl cynnwys Iran 294 iaith Аԥсшәа Acèh Адыгабзэ Afrikaans Alemannisch አማርኛ Pangcah Aragonés Ænglisc अंगिका العربية ܐܪܡܝܐ الدارجة مصرى অসমীয়া Asturianu Авар Kotava अवधी Azərbaycanca تۆرکجه Башҡортса Basa Bali Boarisch Žemaitėška Bikol Central Беларуская (тарашкевіца) Беларуская Betawi Български भोजपुरी Bislama Banjar বাংলা བོད་ཡིག বিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরী Brezhoneg Bosanski Batak Mandailing Basa Ugi Буряад Català Chavacano de Zamboanga 閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄ Нохчийн Cebuano ᏣᎳᎩ کوردی Corsu Qırımtatarca Čeština Kaszëbsczi Словѣньскъ / ⰔⰎⰑⰂⰡⰐⰠⰔⰍⰟ Чӑвашла Dansk Dagbanli Deutsch Zazaki Dolnoserbski Kadazandusun डोटेली ދިވެހިބަސް Ελληνικά Emiliàn e rumagnòl English Esperanto Español Eesti Euskara Estremeñu فارسی Fulfulde Suomi Võro Na Vosa Vakaviti Føroyskt Français Arpetan Nordfriisk Frysk Gaeilge Gagauz 贛語 Kriyòl gwiyannen Gàidhlig Galego گیلکی Avañe'ẽ गोंयची कोंकणी / Gõychi Konknni 𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺 ગુજરાતી Gaelg Hausa 客家語 / Hak-kâ-ngî Hawaiʻi עברית हिन्दी Fiji Hindi Hrvatski Hornjoserbsce Kreyòl ayisyen Magyar Հայերեն Արեւմտահայերէն Interlingua Jaku Iban Bahasa Indonesia Interlingue Ilokano ГӀалгӀай Ido Íslenska Medžuslovjansky Italiano 日本語 Patois La .lojban. Jawa ქართული Qaraqalpaqsha Taqbaylit Karai-karai Адыгэбзэ Kabɩyɛ Tyap Kongo Kumoring Gĩkũyũ Қазақша ភាសាខ្មែរ ಕನ್ನಡ Yerwa Kanuri 한국어 Перем коми Къарачай-малкъар کٲشُر Ripoarisch Kurdî Коми Kernowek Кыргызча Latina Ladino Lëtzebuergesch Лакку Лезги Lingua Franca Nova Luganda Limburgs Ligure Ladin Lombard Lingála ລາວ Lietuvių Latviešu Madhurâ मैथिली Basa Banyumasan Мокшень Malagasy Олык марий Māori Minangkabau Македонски മലയാളം Монгол ꯃꯤꯇꯩ ꯂꯣꯟ मराठी Кырык мары Bahasa Melayu Malti Mirandés မြန်မာဘာသာ Эрзянь مازِرونی Napulitano Nedersaksies Plattdüütsch नेपाली नेपाल भाषा Nederlands Norsk nynorsk Norsk bokmål Novial ߒߞߏ Sesotho sa Leboa Diné bizaad Chi-Chewa Occitan Livvinkarjala Oromoo ଓଡ଼ିଆ Ирон ਪੰਜਾਬੀ Pangasinan Kapampangan Papiamentu Picard Deitsch Polski Piemontèis پنجابی پښتو Português Runa Simi Rumantsch Ikirundi Română Armãneashti Tarandíne Русский Русиньскый Ikinyarwanda संस्कृतम् Саха тыла ᱥᱟᱱᱛᱟᱲᱤ Sardu Sicilianu Scots سنڌي Davvisámegiella Sängö Srpskohrvatski / српскохрватски Taclḥit တႆး සිංහල Simple English Slovenčina سرائیکی Slovenščina Gagana Samoa Anarâškielâ ChiShona Soomaaliga Shqip Српски / srpski Sranantongo SiSwati Sesotho Seeltersk Sunda Svenska Kiswahili ꠍꠤꠟꠐꠤ Ślůnski Sakizaya தமிழ் Tayal ತುಳು తెలుగు Tetun Тоҷикӣ ไทย ትግርኛ Türkmençe Tagalog Tolışi Lea faka-Tonga Toki pona Tok Pisin Türkçe Seediq Xitsonga Татарча / tatarça ChiTumbuka Twi Тыва дыл Удмурт ئۇيغۇرچە / Uyghurche Українська اردو Oʻzbekcha / ўзбекча Vèneto Vepsän kel’ Tiếng Việt West-Vlams Volapük Walon Winaray Wolof 吴语 IsiXhosa მარგალური ייִדיש Yorùbá Vahcuengh Zeêuws ⵜⴰⵎⴰⵣⵉⵖⵜ ⵜⴰⵏⴰⵡⴰⵢⵜ 文言 閩南語 / Bân-lâm-gí 粵語 中文 IsiZulu Golygu dolenni Erthygl Sgwrs Cymraeg Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Blwch offer Adnoddau symud i'r bar ochr cuddio Gweithredoedd Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Cyffredinol Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeirio at y dudalen hon Cael URL byr Switch to legacy parser Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho fel PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Abstract Wikipedia Comin Wicimedia Eitem Wicidata Gwedd symud i'r bar ochr cuddio Oddi ar Wicipedia '''''Gweriniaeth Islamaidd Iran'''''<br /><small>''جمهوری اسلامی ايران'' ([[Persieg]])<br />''Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān''</small></big>"},"suppressfields":{"wt":"image1"},"map lleoliad":{"wt":"[[Delwedd:LocationIran.svg|270px]]"},"banergwlad":{"wt":"[[Delwedd:Flag of Iran.svg|170px]]"},"arwyddair":{"wt":"Annibyniaeth, Rhyddid, Gweriniaeth Islamaidd"}},"i":0}}]}'>Iran Gweriniaeth Islamaidd Iran جمهوری اسلامی ايران (Persieg) Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān Arwyddair Annibyniaeth, Rhyddid, Gweriniaeth Islamaidd Math gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth olynol Enwyd ar ôl Aryan Prifddinas Tehran Poblogaeth 92,417,700 Sefydlwyd 1 Ebrill 1979 (Llywodraeth Iran) Anthem Anthem Genedlaethol Gweriniaeth Islamaidd Iran Pennaeth llywodraeth Maʾsud Pezeškiyān Cylchfa amser UTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, Asia/Tehran Iaith/Ieithoedd swyddogol Perseg Daearyddiaeth Rhan o'r canlynol Y Dwyrain Canol Gwlad Iran Arwynebedd 1,648,195 ±1 km² Gerllaw Môr Caspia, Gwlff Persia, Gwlff Oman Yn ffinio gyda Affganistan, Pacistan, Twrci, Irac, Aserbaijan, Armenia, Tyrcmenistan, Gweriniaeth Ymreolaethol Nakhchivan, Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Oman, Catar, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Cyfesurynnau 32°N 53°E Gwleidyddiaeth Corff gweithredol Llywodraeth Iran Corff deddfwriaethol Cynulliad Ymgynghorol Islamaidd Swydd pennaeth y wladwriaeth Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran Pennaeth y wladwriaeth Mojtaba Khamenei Swydd pennaeth y Llywodraeth Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran Pennaeth y Llywodraeth Maʾsud Pezeškiyān Ariannol Cyfanswm CMC (GDP) $359.1 biliwn, $388.5 biliwn Arian rial Iranaidd Cyfartaledd plant 1.707 Mynegai Datblygiad Dynol 0.774 Ffeiliau perthnasol ar Comin [golygwch ar Wicidata] Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Iran (Persieg: ایران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia.[1] Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd. Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,[2][3], gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.[4] Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf.[5][6] Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth. Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia.[7] O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto,[8] ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol.[9][10] Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin.[11] Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963.[12] Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad. Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil,[13][14][15][16] gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant. Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf.[17] Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[18] Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.[19] Geirdarddiad [golygu | golygu cod] Mae'r term Iran yn tarddu'n uniongyrchol o Ērān mewn Persieg Canol, a gofnodwyd yn gyntaf mewn arysgrif o'r 3g yn Naqsh-e Rostam , gyda'r arysgrif Partheg a oedd gydag ef yn defnyddio'r term Aryān, yn cyfeirio at yr Iraniaid. Mae'r ērān ac aryān Iraneg Canol yn ffurfiau lluosog o enwau gentilig ēr- (Perseg Canol) ac ary- (Partheg), ill dau'n deillio o iaith Proto-Iranaidd * arya- (sy'n golygu " Aryan", hy "o'r Iraniaid"),[20][21] a gydnabyddir fel deilliad o'r iaith Proto-Indo-Ewropeg *ar-yo-, sy'n golygu "un sy'n ymgynnull (yn fedrus)".[22] Yn yr ieithoedd Iranaidd, ardystir y gentilig fel hunan-ddynodwr, wedi'i gynnwys mewn arysgrifau hynafol a llenyddiaeth yr Avesta.[21] Yn ôl mytholeg Iran, daw enw'r wlad o'r enw Iraj, tywysog chwedlonol a shah [23] Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at Iran fel Persia gan awduron o'r Gorllewin,[24] gan gynnwys ysgrifau haneswyr Gwlad Groeg a gyfeiriodd at Iran fel Persís (Groeg Hynafol: Περσίς; o'r Hen Berseg 𐎱𐎠𐎼𐎿 Pārsa),[25] sy'n golygu "gwlad y Persiaid", tra bod Persis ei hun yn un o daleithiau Iran hynafol a elwir heddiw yn Fars.[26] Oherwydd agosatrwydd yr hen Roegiaid a'r Persiaid, parhaodd y term, hyd yn oed ymhell ar ôl y Rhyfeloedd Greco-Persia (499-494 CC). Hanes [golygu | golygu cod] Cynhanes [golygu | golygu cod] Paentiad ogof yn ogof Doushe, Lorestan, o'r 8fed mileniwm CC [27] Mae'r arteffactau archeolegol cynharaf yn Iran, fel y rhai a gloddiwyd yn Kashafrud a Ganj Par yng ngogledd Iran, yn cadarnhau presenoldeb dynol yn Iran ers y Paleolithig Isaf.[28] Mae arteffactau Neanderthalaidd Iran o'r Paleolithig Canol…