Qortora · Search · Indexed page

cy.wikipedia.orgFetched 2026-08-13T19:45:37Z

Terens - Wicipedia

Terens - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngof…

Open original source · Full cached text

Terens - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Cynnwys symud i'r bar ochr cuddio Y dechrau 1 Bywgraffiad Toglo is-adran Bywgraffiad 1.1 Ffynonellau 1.2 Bywyd cynnar 1.3 Gyrfa lenyddol 1.4 Diwedd ei oes 2 Y dramâu 3 Hanes derbyniad ei waith 4 Cyfeiriadau Toglo'r tabl cynnwys Terens 61 iaith Aragonés العربية الدارجة مصرى Asturianu Беларуская Български Brezhoneg Català Čeština Dansk Deutsch Ελληνικά English Esperanto Español Eesti Euskara فارسی Suomi Français Arpetan Furlan Frysk Galego עברית Hrvatski Magyar Հայերեն Bahasa Indonesia Ido Íslenska Italiano 日本語 ქართული Қазақша 한국어 Kernowek Кыргызча Latina Lingua Franca Nova Latviešu Македонски മലയാളം नेपाल भाषा Nederlands Norsk bokmål Polski Português Română Русский Sicilianu Srpskohrvatski / српскохрватски Simple English Slovenčina Slovenščina Српски / srpski Svenska Türkçe Українська 中文 Golygu dolenni Erthygl Sgwrs Cymraeg Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Blwch offer Adnoddau symud i'r bar ochr cuddio Gweithredoedd Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Cyffredinol Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeirio at y dudalen hon Cael URL byr Switch to legacy parser Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho fel PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Comin Wicimedia Eitem Wicidata Gwedd symud i'r bar ochr cuddio Oddi ar Wicipedia Terens Portread o Terens o'r llawysgrif oliwiedig o'r 9g a elwir Codecs Vaticanus Latinus 3868, a gedwir yn Llyfrgell y Fatican Ganwyd 185 CC  Carthago  Bu farw 159 CC  o boddi  Llyn Stymphalia  Dinasyddiaeth Rhufain hynafol  Galwedigaeth awdur comedi, bardd, ysgrifennwr, dramodydd  Adnabyddus am Y Brodyr, Andria, Eunuchus, Heauton Timorumenos, Hecyra, Phormio  Arddull comedi  Dramodydd Rhufeinig hynafol oedd Terens (Publius Terentius Afer; tua 195 CC – tua 159 CC) sydd yn nodedig am ei gomedïau Lladin, chwech ohonynt sydd yn goroesi: Andria, Hecyra, Heauton Timorumenos, Eunuchus, Phormio, ac Adelphoe. Fel arfer, fe'i ystyrir yn gomedïwr gwychaf yr oes Rufeinig, yn ail i Plautus. Bywgraffiad [golygu | golygu cod] Ffynonellau [golygu | golygu cod] Mae'r ychydig o fanylion sydd gennym am fywyd Terens yn seiliedig ar ddwy ffynhonnell yn bennaf: y prologau i'w ddramâu, yn yr hyn mae'r awdur yn amddiffyn ei hun rhag ei feirniaid; a'r bywgraffiad ohono a briodolir i Suetonius, wedi ei ailysgrifennu gan y gramadegydd a rhethregwr Aelius Donatus o'r 4g yn ei esboniadau o'r chwe chomedi. Bywyd cynnar [golygu | golygu cod] Ganed Terens yn gaethwas yng Ngharthago, Gogledd Affrica, yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain. Aeth i Rufain dan berchenogaeth y Seneddwr Terentius Lucanus, ac yno cafodd ei addysgu a'i ryddhau o'i gaethwasanaeth. Gyrfa lenyddol [golygu | golygu cod] Fel dyn rhydd, cafodd Terens ei dderbyn i Gylch Scipio, y garfan Roeg-garol o athronwyr, llenorion, a gwleidyddion a fu dan nawdd y Cadfridog Scipio Aemilianus. Credir i Terens ysgrifennu ei chwe chomedi yn y cyfnod 166–160 CC. Mae'r hysbysebion cynhyrchu a ddodir ar flaen testunau'r dramâu yn cofnodi manylion o'r perfformiadau cyntaf, ac weithiau cynyrchiadau diweddarach. O'r rheiny, priodolir y dyddiadau canlynol i'r chwe chomedi: Andria (166 CC), Hecyra (165 CC), Heauton Timoroumenos (163&nbso;CC), Eunuchus (161 CC), Phormio (161 CC), Adelphoe (160 CC). Cafwyd ail a thrydydd gynhyrchiad o Hecyra yn 160 CC. Diwedd ei oes [golygu | golygu cod] Teithiodd Terens i Wlad Groeg pan oedd yn 35 oed. Bu farw naill ai o salwch yng Ngroeg, neu mewn llongddrylliad ar y fordaith yn ôl i Rufain. Bu'n berchen ar ystâd fechan ar gyrion Rhufain, ar Ffordd Appius. Cafodd ei oroesi gan ei ferch. Y dramâu [golygu | golygu cod] Mae pedair o chwe chomedi Terens yn seiliedig ar weithiau'r dramodydd Groeg Menandros, a flodeuai canmlwydd a hanner cyn Terens. Wrth addasu'r esiamplau hynny o'r "Gomedi Newydd" Athenaidd ar gyfer cynulleidfa Rufeinig, aeth Terens ati i ysgrifennu prologau newydd, trosi'r geiriau i Ladin llafar yr oes, a chyflwyno rhywfaint o realaeth i'r straeon. Hanes derbyniad ei waith [golygu | golygu cod] Edmygai Terens gan awduron Rhufeinig diweddarach am burdeb ei arddull. Apeliodd ei waith hefyd at glasurwyr a dyneiddwyr y Dadeni Dysg, am iddo gyfuno teimladrwydd coeth (o'i gymharu â Plautus) ag arddull Lladin i'w efelychu, a argymhellwyd dysgu a pherfformio ei ddramâu fel rhan o addysg foesol. Yn yr 16g a'r 17g byddai gweithiau Terens yn ffurfio sail i'r gomedi foesau, a dylanwadodd ar William Shakespeare a Molière. Cyfeiriadau [golygu | golygu cod] Awdurdod WorldCat VIAF: 66462384 LCCN: n79066715 ISNI: 0000 0001 2137 1407 GND: 118621335 SELIBR: 96383 SUDOC: 026672588 BNF: cb118876898 (data) BIBSYS: 90195366 NLA: 35543748 NDL: 00458485 NKC: jn19981002199 The SBN id CFIV069531 is not valid. BNE: XX994147 CiNii: DA00358605 KulturNav: id Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Terens&oldid=13460016" Categorïau: Caethweision Dramodwyr Lladin Genedigaethau'r 2il ganrif CC Llenorion Rhufeinig Marwolaethau'r 2il ganrif CC Pobl o Garthago Categorïau cudd: Articles with hCards Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata AC with 15 elements Wikipedia articles with VIAF identifiers Wikipedia articles with LCCN identifiers Wikipedia articles with ISNI identifiers Wikipedia articles with GND identifiers Wikipedia articles with SELIBR identifiers Wikipedia articles with BNF identifiers Wikipedia articles with BIBSYS identifiers Wikipedia articles with NLA identifiers Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN) Golygwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 4 Mawrth 2025, am 11:20 . Cafodd y dudalen ei rendro drwy ddefnyddio Parsoid. Mae'r testun ar gael o dan Creative Commons Attribution-ShareAlike License; gall telerau ychwanegol fod yn berthnasol. Gweler y Telerau Gwasanaeth am fanylion. Polisi preifatrwydd Ynglŷn â Wicipedia Gwadiadau Legal & safety contacts Cod Ymddygiad Datblygwyr Ystadegau Datganiad cwcis Golwg symudol Chwilio Chwilio Toglo'r tabl cynnwys Terens 61 iaith Ychwanegu pwnc