Qortora · Search · Indexed page

cy.wikipedia.orgFetched 2026-08-17T13:19:40Z

Bywydeg - Wicipedia

Bywydeg - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngo…

Open original source · Full cached text

Bywydeg - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Cynnwys symud i'r bar ochr cuddio Y dechrau 1 Hanes 2 Dosbarthiad bywyd 3 Pethau byw 4 Lluniau 5 Cysyniadau allweddol bioleg 6 Cyfeiriadau Toglo'r tabl cynnwys Bywydeg 255 iaith Аԥсшәа Afrikaans Alemannisch አማርኛ Aragonés العربية الدارجة مصرى অসমীয়া Asturianu Авар Kotava अवधी Azərbaycanca تۆرکجه Башҡортса Basa Bali Boarisch Žemaitėška Batak Toba Bikol Central Беларуская (тарашкевіца) Беларуская Betawi Български भोजपुरी Bislama Banjar ပအိုဝ်ႏဘာႏသာႏ বাংলা བོད་ཡིག Brezhoneg Bosanski Batak Mandailing Basa Ugi Буряад Català Chavacano de Zamboanga 閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄ Нохчийн Cebuano Chamoru ᏣᎳᎩ کوردی Corsu Qırımtatarca Čeština Kaszëbsczi Чӑвашла Dansk Dagbanli Deutsch Thuɔŋjäŋ Zazaki ދިވެހިބަސް Ελληνικά English Esperanto Español Eesti Euskara Estremeñu فارسی Suomi Võro Na Vosa Vakaviti Føroyskt Français Arpetan Nordfriisk Furlan Frysk Gaeilge Kriyòl gwiyannen Gàidhlig Galego گیلکی Avañe'ẽ Bahasa Hulontalo ગુજરાતી Gaelg Hausa 客家語 / Hak-kâ-ngî Hawaiʻi עברית हिन्दी Fiji Hindi Hrvatski Hornjoserbsce Kreyòl ayisyen Magyar Հայերեն Արեւմտահայերէն Interlingua Jaku Iban Bahasa Indonesia Interlingue Ilokano ГӀалгӀай Ido Íslenska Medžuslovjansky Italiano ᐃᓄᒃᑎᑐᑦ / inuktitut 日本語 Patois La .lojban. Jawa ქართული Qaraqalpaqsha Taqbaylit Kabɩyɛ Gĩkũyũ Қазақша ភាសាខ្មែរ ಕನ್ನಡ Yerwa Kanuri 한국어 کٲشُر Kurdî Коми Kernowek Кыргызча Latina Ladino Lëtzebuergesch Лезги Lingua Franca Nova Luganda Limburgs Ligure Ladin Lombard Lingála ລາວ Lietuvių Latviešu Madhurâ मैथिली Basa Banyumasan Malagasy Олык марий Minangkabau Македонски മലയാളം Монгол ꯃꯤꯇꯩ ꯂꯣꯟ ဘာသာမန် मराठी Bahasa Melayu Malti Mirandés မြန်မာဘာသာ Эрзянь Nāhuatl Napulitano Nedersaksies Plattdüütsch नेपाली नेपाल भाषा Nederlands Norsk nynorsk Norsk bokmål Novial ߒߞߏ Nouormand Sesotho sa Leboa Occitan Livvinkarjala Oromoo ଓଡ଼ିଆ Ирон ਪੰਜਾਬੀ Kapampangan Papiamentu Naijá Pälzisch Polski Piemontèis پنجابی پښتو Português Runa Simi ရခိုင် Rumantsch Română Armãneashti Русский Русиньскый संस्कृतम् Саха тыла ᱥᱟᱱᱛᱟᱲᱤ Sardu Sicilianu Scots سنڌي Srpskohrvatski / српскохрватски Taclḥit සිංහල Simple English Slovenčina سرائیکی Slovenščina Gagana Samoa ChiShona Soomaaliga Shqip Српски / srpski SiSwati Sesotho Seeltersk Sunda Svenska Kiswahili Ślůnski தமிழ் ತುಳು తెలుగు Tetun Тоҷикӣ ไทย ትግርኛ Türkmençe Tagalog Tolışi Toki pona Tok Pisin Türkçe Xitsonga Татарча / tatarça Удмурт ئۇيغۇرچە / Uyghurche Українська اردو Oʻzbekcha / ўзбекча Vèneto Vepsän kel’ Tiếng Việt West-Vlams Volapük Walon Winaray 吴语 Хальмг IsiXhosa მარგალური ייִדיש Vahcuengh Zeêuws ⵜⴰⵎⴰⵣⵉⵖⵜ ⵜⴰⵏⴰⵡⴰⵢⵜ 文言 閩南語 / Bân-lâm-gí 粵語 中文 IsiZulu Golygu dolenni Erthygl Sgwrs Cymraeg Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Blwch offer Adnoddau symud i'r bar ochr cuddio Gweithredoedd Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Cyffredinol Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeirio at y dudalen hon Cael URL byr Switch to legacy parser Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho fel PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Abstract Wikipedia Comin Wicimedia Eitem Wicidata Gwedd symud i'r bar ochr cuddio Oddi ar Wicipedia Bywydeg Enghraifft o: cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd  Math gwyddorau naturiol, life sciences  Yn cynnwys morffoleg, ecoleg, botaneg, swoleg, archaeobiology, Anatomeg, Mycoleg, Geneteg, biology of colour, bioleg cell, evolutionary biology, computational biology, Neurobiology, microbioleg, biotechnoleg, biocemeg, Biofiseg  Dynodwyr Freebase /M/01540  Thesawrws y BNCF 1541  Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia Rhan o gyfres ar Fywydeg Meysydd astudio Anatomeg Biocemeg Bioleg cell Bioleg datblygiad Bioleg ddynol Bioleg esblygiadol Bioleg foleciwlaidd Bioleg forol Botaneg Ecoleg Ffisioleg Geneteg Microfioleg Mycoleg Paleontoleg Söoleg Systemateg Cysyniadau o fewn bioleg Bywyd Cadwraeth Cromosom DNA Esblygiad Ffosil Organeb byw Biolegwyr Cymreig adnabyddus Hugh Davies R Elwyn Hughes Steve Jones Edward Lhuyd Gwendolen Rees Jean Olwen Thomas Deri Tomos Eleanor Vachell Alfred Russel Wallace v t e Bywydeg (weithiau: bioleg) yw'r maes gwyddonol sy'n ymdrin â bywyd ac organebau byw. Mae'n cynnwys astudiaethau ar sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu Mae bywydeg yn ymdrin ag ystod eang o feysydd academaidd sy'n edrych ar bob rhan o natur. Yn draddodiadol, mae'r pwnc yn cael ei rannu'n is-feysydd yn ôl grŵp tacsonomaidd – er enghraifft, mae botanegwyr yn astudio planhigion, sŵolegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a meicrofiolegwyr yn astudio bacteria. Mae rhannu bywydeg yn ôl trefn fiolegol yn ffordd fwy cyfoes o wahaniaethu meysydd – er enghraifft, drwy edrych ar foleciwlau a chelloedd, organebau cyfan a phoblogaethau. Gellir hefyd rhannu bywydeg yn ôl dull: gwaith maes, bioleg damcaniaethol, bioffiseg, paleontoleg, ac ati. Hanes [golygu | golygu cod] Mae bywydeg fel maes modern o astudiaeth wyddonol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Defnyddiwyd y term bioleg (neu air tebyg) – sy'n deillio o'r gair Groeg βίος (bios, "bywyd") a'r ôl-ddodiad -λογία (-logia, "astudiaeth o")[1] – am y tro cyntaf o gwmpas dechrau'r 19g. Defnyddiwyd gan y ffisiolegydd Thomas Beddoes yn 1799, y gwyddonydd Karl Friedrich Burdach yn 1800 a'r gwyddonydd Gottfried Reinhold Treviranus yn 1802.[2][3][4] Ond er tarddiad diweddar y pwnc fel y'i adnabyddir heddiw, gellir olrhain hanes bywydeg yn ôl i amseroedd hynafol. Bu Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yn Henfyd oddeutu 330CC.[5] Roedd gan brentis Aristoteles, Theophrastus, hefyd ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe ysgrifennodd yn helaeth am blanhigion.[6] Bu nifer o ddisgyblion y byd Islamaidd canoloesol yn astudio bywydeg, yn cynnwys al-Jahiz (781–869), Al-Dīnawarī (828–896), a ysgrifennodd am fotaneg ac al-Razi (865–925), a ysgrifennodd am ffisioleg ac anatomeg.[7][8][9] Yn dilyn gwaith arloesol Antonie van Leeuwenhoek ar wella a datblygu'r microsgop yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis algâu.[10] Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y gell i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn theori cell.[11] Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar dacsonomeg a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden Carolus Linnaeus argraffiad cyntaf ei Systema Naturae yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.[12]. Mae ei gyfundrefn o enwau deuenwol yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.[13] Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro esblygiad. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig Jean-Baptiste de Lamarck ei waith Philosophie Zoologique, ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad.[14] Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach.[15] Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr Charles Darwin yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes daeareg, gan ddefnyddio detholiad naturiol i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro Alfred Russel Wallace i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain Asia.[16][17][18] Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur etifeddeg. Roedd y mynach o Forafia Gregor Mendel wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901.[19] Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed.[20] Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf Avery-MacLeod-McCarty mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf Hershey-Chase.[21][22] Dosbarthiad bywyd [golygu | golygu cod] Prif: Dosbarthiad biolegol Syr Richard Owen; darganfyddwr y 'Deinosor' Defnyddir system o'r enw 'Tacsonomeg Linnaeaidd' i ddosbarthu organebau mewn grwpiau. Mae'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd. Pethau byw [golygu | golygu cod] Bacteria Archaea Ewcaryotau Protistiaid Planhigion Ffyngau Anifeiliaid Lluniau [golygu | golygu cod] Animalia - buwch (Bos primigenius taurus) Plantae - gwenith (Triticum) Fungi - morel cyffredin (Morchella esculenta) Stramenopila/Chromista - morwiail danheddog (Fucus serratus) Bacteria - Gemmatimonas aurantiaca (- = 1 Micrometer) Archaea - Halobacteria Virus - bacterioffag gama Cysyniadau allweddol bioleg [golygu | golygu cod] Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys: Theori cell Esblygiad Geneteg Homeostasis Egni Cyfeiriadau [golygu | golygu cod] ↑  Who coined the term biology?. Info.com. Adalwyd ar 2012-06-03. ↑  biology. Geiriadur Saesneg Rhydychen. Adalwyd ar 2017-11-15. ↑ Junker. Geschichte der Biologie, tud. 8 ↑ Coleman. Biology in the Nineteenth Century, tud. 1–2 ↑ Aristoteles. The History of Animals. URL ↑  The grandfather of botany – Theophrastus of Eresus. Gerddi Botanegol Brenhinol Kew. Adalwyd ar 2017-11-15. ↑ Malik, Aamina H; Ziermann, Janine M; Diogo, Rui. "An untold story in biology: the historical continuity of evolutionary ideas of Muslim scholars from the 8th century to Darwin’s time". Journal of Biological Education. doi:10.1080/00219266.2016.1268190. ISSN 0021-9266. ↑ Fahd, Toufic. "Botany and agriculture", gol. Rashed, Roshdi: Encyclopedia of the History of Arabic Science, 3. Routledge, tud. 815. ISBN 0-415-12410-7 ↑  Insights into Neurologic Localization by Al-Razi (Rhazes), a Medieval Islamic Physician. Muslim Heritage. Adalwyd ar 2017-11-16. ↑ Cobb, Matthew (2007). The Egg and Sperm Race: The Seventeenth-Century Scientists Who Unravelled the Secrets of Sex, Life and Growth. Simon & Schuster UK. ISBN 978-1416526001 ↑ Sapp, Jan. Genesis: the Evolution of Biology. Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-5156…